UKC

Canllaw Cyrchfan: Tywodfaen De Cymru

© Jon Butters

Ysgrifennai Eben Myrddin Muse am glogwyni a chwareli tywodfaen llai adnabyddus De Cymru gyda dringo sport, traddodiadol, a bowldro ar gael...

This article is also available in English.

Nodyn - dyma erthygl ddwyiaethog gyntaf UKC ac fy erthygl ddringo estynedig gyntaf i yn y gymraeg, felly mae sawl term wedi i bathu yma am y tro cyntaf hyd y gwn i (cragging/clogwynna, crimps/crimpiau, troedwaith/footwork, ffonglip/clipstick, cwffwyr-cerrig-mân/boulderers, tywyslyfr/guidebook). Fyddwn i wrth fy modd petai trafodaeth yn y sylwadau ynglyn a'r rhain. Da, drwg, oes rhai gwell eisoes yn bodoli?

Dan yng Nghoed Ely  © Jon Butters
Dan yng Nghoed Ely

De-ddwyrain Cymru: Y Tywodfaen

Beth sy'n dod i'ch meddwl wrth feddwl am 'Ddringo yn Ne Cymru'? Efallai glogwynni uchel a thonnau sir Benfro, neu draethau hirion a childraethau heulog Gŵyr; mae hi'n bur debyg nad y dywodfaen ydi'r hyn sy'n neidio i ddychymyg y rhan fwyaf o bobl. Mewn rhestrau o ddinasoedd y DU sydd at ddant dringwyr, mae hi'n bosib y byddai Caerdydd, Abertawe neu Gasnewydd fod yn gwbl absennol! Mae angen i hyn newid, oherwydd pan fyddwch chi'n tynnu'r llen yn ôl, mae yna lawer iawn o glogwyni penigamp - mawr a bach, prysur a thawel - y dylech chi eu ymweld â nhw. P'un a ydych chi'n chwilio am brosiect 'sport' anodd, prynhawn o bowldro, neu ddiwrnod llawn o ddringfeydd moethus ar eich gradd gyfforddus, mae tirwedd ôl-ddiwydiannol Dde-ddwyrain Cymru a'r cymoedd yn rhoi, a rhoi. 

Harrison Hughes yng Nghraig Cefn Parc  © Carl Ryan
Harrison Hughes yng Nghraig Cefn Parc

Gwythiennau Cyfoethog - o Lo i Glogwynna (Cragging)

Nid yw Cymoedd De Cymru erioed wedi ei chael hi'n hawdd. O enedigaeth y diwydiant glo trem yn y 19eg ganrif hyd at gau'r pwll glo dwfn olaf (Glofa'r Tŵr) yn 2008, maent wedi dioddef a gwrthsefyll streiciau, ymadawiad y diwydiant yn llwyr, cyfoeth eithafol yn nwylo nifer fechan, tlodi eang, a thrasiediau anfesuradwy dros y blynyddoedd. Mae llawer sy'n byw yn ardaloedd metropolitan neu drefol Cymru yn byw bywydau cyfochrog, heb fawr o gysylltiad, os o gwbl, â'r ardaloedd cyfagos – yr ardaloedd a ddefnyddiwyd eu cyfoeth naturiol er mwyn palmantu ac yn adeiladu llefydd fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, mewn ystyr yn drosiadol ag yn llythrennol. Fel myfyriwr o Ogledd Cymru, rhoddodd ddringo reswm hawdd i mi adael y ddinas ar ôl, a gweld rhan o dde Cymru sydd erioed wedi cael ei rhoi ar bedestal fel Sir Benfro, Eryri, Penrhyn Gŵyr, na Bannau Brycheiniog. Mae dosraniad cyson y boblogaeth ar draws y cymoedd yn golygu y bydd trigolion lleol, yn ddigon aml yn bobl ifanc yn eich cwrdd chi yno yn fwy aml na mewn llefydd anghysbell. Maen nhw wastad yn chwilfrydig am y syniad bod y weithred 'anturus' fynyddig o ddringo creigiau yn digwydd yn eu hiard gefn nhw. Fwyfwy, mae pobl leol yn ymrwymo yn y gamp a'n cymryd perchnogaeth o'u hardal; mae Split Tips a Grit Climbing (oes, mae gennym ni 'Grit' hefyd ... o fath) yn enghreifftiau gwych o'r hyn sy'n digwydd pan fydd entrepreneuriaeth leol yn cwrdd â brwdfrydedd eithafol ac ysbryd cymunedol cryf.

Kieran Keavy yn teimlo serthrwydd y Llen Rhwd yn Sirhowy  © Eben Myrddin Muse
Kieran Keavy yn teimlo serthrwydd y Llen Rhwd yn Sirhowy

Mae'r dirwedd hon yn frith dan greithiau diwydiant: chwareli wedi'u gwasgaru o gwmpas, gan ddarparu'r cyfrwng perffaith i'w fforio. O frigiadau naturiol diymhongar â golygfeydd prydferth i byllau gwyllt yn llawn jyngl wedi'u fframio gan waliau serth o dywodfaen oren llachar, mae cyfoeth o ddringo i'w gael yma: heb os, y crimpiau gorau ar y blaned (credwch fi). Gyda pedwar llyfr tywys modern bellach yn disgrifio'r ardal (dau lyfr bowldro, un dringo sport, ac un sport/traddodiadol) fuodd na erioed amser gwell i ymgyfarwyddo a chofleidio â thywodfaen De Cymru!

Yn ôl UKC, mae'na o leiaf 81 o glogwyni tywodfaen dringadwy wedi eu cofnodi yn y dyffrynnoedd tywodfaen, o fewn 40km o lannau mwdlyd Caerdydd– mae'r rhan fwyaf o fewn taith pedwar deg munud mewn car, neu well fyth, taith reilffordd gymharol fer i ffwrdd ar linell y cymoedd. Roedd y daith swnllyd ar yr hen drenau Pacer o'r 1980au yn ddefod sanctaidd am ddegawdau, ond mae buddsoddiad hir-ddisgwyliedig mewn seilwaith yn golygu y gall teithiwr heddiw fwynhau moethau fel air-con a thoiledau lled-weithredol wrth i'r cerbyd eich cludo chi ar daith heddychlon. Cewch eich gollwng, mewn rhai achosion, o fewn ychydig lathenni i'r clogwyn! Mae Rob McGurk yn cofio bywyd fel myfyriwr heb trafnidiaeth personol yn y 2010au cynnar, gan gamu oddi ar y trên ac yn syth at y graig:

"Un o fy hoff bethau oedd hygyrchedd y creigiau tywodfaen. Llawer oedd y dyddiau pan es i allan gyda phartner, yn llawn cyffro, topo wedi'i argraffu ar frys yn fy llaw. Cyn hir, cefais lyfrgell wirioneddol o'r sbarion carpiog hyn, a gwybodaeth resymol am holl linellau'r trên allan o'r ddinas. Doedd gen i ddim car ond hawdd oedd neidio ar drên a bod yn Nhrehafod ymhen hanner awr, a rhoi fy mysedd yn syth at waith ar y wynebau fertigol. Hyd yn oed pan nad oedd unrhyw beth arall mewn cyflwr i'w ddringo, rwy'n cofio sleifio'n gynnar yn y bore, cyn darlithoedd, yn gweithio ar y crimp-fests technegol ar wal 'Gorki's'. Fe ddilynais i fy mhrentisiaeth dringo yno, ynghyd â Nav' Quarry, Treherbert, Bargoed, Penallta, Y Bwlch (The Gap)... mae'r rhestr yn un hir. Tra bod y clogwyni hyn braidd yn flêr, gyda graffiti a sbwriel yn ddigon cyffredin, roedd y profiad o hercian ar drên, gadael y ddinas ar ôl, a mynd allan ar y dywodfaen yn bleser pur. Gallai myfyrwyr brwd/tlawd fel fi gael llawer iawn o filltiroedd ar graig go iawn – mewn rhai achosion mae'n haws cyrraedd y clogwyni na'r wal dan do agosaf!"  - Rob McGurk, carwr tywodfaen 

A beth am y clogwyni hynny sydd ychydig ymhellach oddi ar y llwybr? Gall y daith honno fynd â chi i ardaloedd hardd, a hynod ddiddorol. Alla i ddim gorbwysleisio harddwch garw Cymoedd De Cymru. Dim ond un daith amser machlud i fyny i ben y mynydd y mae'n ei gymryd i'ch swyno - harddwch The Gap)  wrth edrychi lawr ar Dreharris a Dyffryn Bargoed yn eu gogoniant. Er y gallai rhai (yn deg, wedi'r cwbl) ddisgrifio'r clogwyni fel creithiau diwydiannol ar y dirwedd – olion picell o'r gorffennol – maent hefyd yn aml yn enghreifftiau bendigedig o wellhad ac adfywiad byd natur, yn ogystal â bod yn agos at rai campau rhyfeddol o bensaernïaeth a diwydiant. Mae hen gyrn simneiau, cawelli lifft, traphontydd a llinellau rheilffordd yn gwasgaru'r dirwedd. Nid yw'n anghyffredin ychwaith i chi weld cigfran neu hebog tramor yn esgyn uwchben, (os ydych chi'ch hun yn dod ar draws unrhyw adar yn nythu, cofiwch gysylltu â'ch cynrychiolydd mynediad lleol!), neu greaduriaid difyr fel y chwilen teigr werdd, glöynnod byw unigryw, neu redyn y corn corn prin a chlychlys dail eiddew. Mae yna hefyd hud gwirioneddol i rai o'r siapiau carreg a adawyd ar ôl gan hap a siawns o ddewis y chwarelwr - o dwr simsan   Treherbert Quarrry (Rhondda Pillar) i amffitheatr amddiffynnol Navigation Quarry.

Y Bwlch  © Harry Durban
Y Bwlch

Mae Tywodfaen Pennant llwyd-goch yn gorwedd fel mantell dros y meysydd glo, ac mae ganddo hanes fel rhan bwysig o'r gwaith o adeiladu De Cymru fel y mae hi heddiw, o derasau gweithwyr lluosog De Cymru i furiau cam castell Caerffili. Yn rhannol, yr angen am y cyntaf, wrth i ddiwydiant dyfu, yw achos yr holl chwareli di-ri (dwi'n digwydd bod y tu mewn i dŷ teras llwydaidd tywodfaen pennant clasurol™ yn teipio'r erthygl hon ar hyn o bryd). Pan gaiff ei chwarela, mae'r graig sydd yn weddill yn ffurfio waliau fertigol serth, gan dreulio efo'r tywydd ac amser i fewn i pocedi prin, slotiau, neu ymylon sgwâr, tenau sy'n herio cnawd y bysedd, croen a throedwaith. Mae'r clogwyni naturiol sydd wedi'u hindreulio gan amser llawer hirach, craciau ceg-agored, ac ymylon llydan llethrog sy'n arferol. Er bod rhai yn honni mai 'choss' yw'r graig yma - camwedd ydi hyn! Cloddiwyd y graig yma oherwydd ei nodweddion gwrth-hindreuliad cryf, a'i barhad yn erbyn yr elfennau! Felly dyna chi y mater wedi setlo! Dim ond angen sydd am ychydig mwy o draffig ar unrhyw "choss", fel mae nhw'n ei alw o ...

Dringo Tywodfaen: Y Dyddiau Cynnar 

Mae dringwyr wedi bod yn medi gwobrau creigiau De Cymru ers y 60au, ac mae wedi bod yn gartref i nifer fawr o ddatblygwyr prysur dros y blynyddoedd. Mae Goi Ashmore, a fu'n weithgar o'r 90au i'r presennol, yn cofio'r amser bywiog hwnnw, wrth i arferion bolltio newydd, creigiau newydd, a sbri o ôl-foltio arwain at gyfnod newydd o ddringo 'sport' ar Dywodfaen De Cymru:

Cyrhaeddais i Dde Cymru yn 1990 gan ddod lawr i wneud fy ngradd meistr yng Nghaerdydd. Dim ond ychydig o glogwyni tywodfaen hysbys oedd, o dywyslyfr '83, Penallta a'r Darren rwy'n meddwl, er bod awgrymiadau o botensial mewn lleoedd fel Llanbradach. Roedd gen i adroddiadau ardal Mountain Magazine yr oedd Roy Thomas wedi'u hysgrifennu, felly dechreuon ni ddarganfod llefydd fel Cwmaman ac Aberpennar a dod o hyd i ddringfeydd sport yr oedd Andy Sharp, Martin Crocker a Roy wedi'u sefydlu. Roedd y wybodaeth ar wasgar, ond llwyddasom i ddod o hyd i'r dringfeydd, ailadrodd tua 80% ohonynt o fewn 6 mis ac ysgrifennu ein tywyslyfr ein hunain. Roedd y dringfeydd yn ryw fath o lobsgows – heb eu gosod yn llawn gyda bolltau, efallai cwpl o folltau Troll 8mm, peg a gwifren neu ddwy mewn 60 troedfedd ond roedd yn amlwg bod yr ethos yn symud i gyfeiriad dringfeydd llawn offer, nid cyfeiriad 'perygl dylunydd' llechi. Roedd llawer o 'ailgylchu gêr', dwyn pegiau a thynnu bolltau yn digwydd.

Yn '94 cynigiodd Eugene Travers-Jones bolisi bollt, a siglodd drwodd, er gwaethaf rhywfaint o elyniaeth chwerw. Cynlluniwyd y polisi er mwyn rheoli bolltio ar Benrhyn Gŵyr ond crisialodd y feddylfryd ar dywodfaen – dylai'r dringfeydd fod yn rai 'sport' llawn gyda bolltau gweddus a bylchau byrrach. 

Dechreuodd pethau o ddifrif wedyn, gyda Roy a Gary (Gibson) yn datblygu dringfeydd newydd ac yn ail-gyfarparu'r hen rai i'r safon newydd. Fe wnes i lawer o ail-gyfarparu, a bu bron i mi ddod i'r arfer o gadw camgymeriadau'r 80au - etifeddiaeth crap o 'mix'n match', ond erbyn diwedd y 90au gwnaed unrhyw beth a ail-gyfarparwyd yn llawn. Yr hyn a'm synnodd yn y 90au oedd cyn lleied o bobl oedd allan yn dringo yn yr ardal, ond wedyn pan ddechreuodd yr holl waliau dringo agor, fe wnaeth hyn esgyn pethau i fyny rhicyn a dwi'n meddwl mai dyna sydd wedi cadw egni pobl i ddatblygu'r ardal. Dwi wedi synnu pa mor dda mae rhai o'r darganfyddiadau diweddaraf mewn llefydd fel Craig Cwm wedi bod. - Goi Ashmore, datblygwr a dringwr hynafol o dde Cymru. 

Y ddeuawd datblygu clasurol. Roy Thomas a Goi Ashmore yn archwilio darganfyddiad newydd eto fyth  © Carl Ryan
Y ddeuawd datblygu clasurol. Roy Thomas a Goi Ashmore yn archwilio darganfyddiad newydd eto fyth

Mae dyddiau'r 'Roy Thomas Special' wedi mynd, sef lwmp o alwminiwm wedi'i wasgu i siâp priodol gan blant ysgol yn y ddalfa - y dyddiau hyn rydych chi'n fwy tebygol o ddod ar draws  bollt glud dur di-staen hyfryd na darn o gelf fodern i amddiffyn eich clip cyntaf. (er bod ffonglip yn cael ei hargymell yn fawr iawn). Y gwir yw, trwy fon braich, chwys, a llawer iawn o lanhau, mae'r lle wedi'i drawsnewid i fod yn gyrchfan dringo sport go iawn.

Mae cryn dipyn o ddringfeydd a'i dringwyd yn ystod yr 80au hwyr a'r 90au yn dal i gynnig prawf llym hyd heddiw, gyda llwybrau amlwg yn cynnwys Contraband (7c) yn Llanbradach, Mad at the Sun (7c) yn y Bwlch, a Sharpy Unplugged (7b+) yn y Darren. . Byddai unrhyw un yn lwcus i ddod o hyd i lwybrau tebyg iddynt yn unman arall, ar fy llw.

Sut beth ydi'r dringo, felly?

Cyn i mi gael y cyfle i ddringo unrhyw fath arall o graig, roedd hi'n teimlo'n beth hollol naturiol i mi y dylai unrhyw afaelion dringo ar glogwyn dringadwy fod yn hollol sgwâr, wedi'i alinio'n llorweddol, ac wedi'u gosod mewn patrwm creulon, heriol. Ongl fertigol - wedi'i darfu gan doeau byr, cyhyrog. Ffrithiant perffaith yn galw am symudiadau deinamig, a chraciau dramatig yn hollti'r wynebau fel hoel rhyw fwyell nerthol, dim yn erfyn am gael eu jamio. Dim ond wrth ddringo mewn mannau eraill y sylweddolais nad oedd o fel hyn ym mhob man, yn galw arnoch chi gwffio; cant-y-cant o'r amser. Mae Mathew Wright, yn ddiweddar yn enwog am ddringo Lexicon (er doedd o heb wneud eto erbyn i mi ofyn iddo fo ysgrifennu rhywbeth) yn gwybod peth neu ddau am ddringo. Yn y tameidiad isod mae'n cofio'n annwyl am ei brofiadau cynnar ar y stwff da yn y de:

"Ers i mi ddarganfod dringo am y tro cyntaf, mae De Cymru a'i dywodfaen wedi parhau i fod yn un o fy hoff ardaloedd dringo. Mae'r dywodfaen hynafol orenllwyd galed yn cyferbynnu'n hyfryd â'r grug porffor a'r gwyrddni sy'n amgylchynu llawer o'r chwareli anghysbell ac amrywiol hyn.

Mae'r dringo ei hun wedi'i nodweddu gan haen ar ôl haen o gynfasau tywodfaen gwaddodol, pob un yn cynnig gafaelion o wahanol faint. Yn aml fe welwch fod y gafaelion hyn yn ffurfio onglau 90 gradd berffaith yn berpendicwlar i wyneb y graig, gan greu gafaelion gwastad, mawr neu grimpiau bach. Waeth pa radd rydych chi'n ei dringo, byddwch bron yn sicr yn gweld bod y dringo ar y tywodfaen hynafol yn cyflenwi'r arwynebedd arwyneb lleiaf posibl, mae'n rhaid i rwber blaen eich traed swatio'n union ar y gafaelion troed, a rhaid i'ch ffocws gael ei sianelu ar y pos cymhleth sy'n eich disgwyl. Mae pob gafaelyn yn union le mae angen iddo fod i wneud y symudiad yn heriol, ond byth yn amhosibl, fel arfer yn creu taith arnofiol a pharhaus i fyny'r wal. Mae clipio'r cadwyni ar ddiwedd y ddringfa yn rhoi boddhad ond o byth mor foddhaol â'r profiad ei hun, sy'n eich galw chi yno eto dro ar ôl tro.

Mae'r ffordd y mae'r graig yn ffurfio yn unigryw oherwydd ei dringfeydd-arwyneb (face climbs) perffaith. Mae pob llwybr yn cyflwyno her unigryw o gymhlethdodau cain, gan fynnu gweithrediad perffaith o symudiadau dawnsio a bysedd dur. Daw'r heriau hyn ar onglau amrywiol ac thrwy ystod o nodweddion. Mae hyn yn caniatáu amrywiaeth o radddau, ond ran amlaf, nodweddir pob llwybr gan natur finimalaidd eiconig ac unigryw y chwareli tywodfaen hardd. Ar gyfer pob prawf y byddwch yn ei basio, byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o'ch sgiliau unigol eich hun o ran dringo arwyneb technegol. - Mathew Wright, dringwr 9a/V15/E11, a thipyn o fwystfil

Mathew Wright yn crimpio n galed ar ddarnau prawf Y Bwlch  © Georgie Lane
Mathew Wright yn crimpio n galed ar ddarnau prawf Y Bwlch

Dydw i ddim yn dweud mai dyma'r arddull berffaith i'w meistroli cyn concro E11, ond efallai fy mod i, chydig bach? Serch hynny, mae'r steil yn ddigyfaddawd - prin yw'r cyfleoedd ar gyfer ymdrechion law-agored, dioglyd, statig, gyda bysedd a chroen meddal. Mae yma gatalog swmpus o ddringo, o'r dringfeydd hawsaf i'r darnau prawf ar frig y pyramid gradd. Er nad yw o reidrwydd yn 'sandbagged', gall y dringo deimlo'n heriol i'r newydd-ddyfodiaid. 

Bowldro wrth y Creek  © Gabe Ison
Bowldro wrth y Creek

Ond beth os oes gen i wrthwynebiad i folltau? Wel, tra bod y llinellau mwyaf poblogaidd yn dilyn y bolltiau dur i fyny'r clogwyn, mae yna rai dringfeydd bendigedig, yn barod i enaid anturus ddod i'w canfod. Ar gyfer rhai, mae'n werth archwiliad abseil cyn i chi fynd. Mae rhai o fy uchafbwyntiau personol fy hun yn cynnwys clasur solo Pat Littlejohn, 'Scabs (E3 5b)', yn crwydro'i ffordd ar jygiau a haenau drwy fargod annhebygol. Ac wedyn mae gen'ti y godidog 'The Expansionist (E3 5b)' yn Llanbradach - cefnder iau, Cymreig cudd, sy'n wirioneddol fel Indian Creek bach Llanbradach. Mae hefyd bleserau mwy confensiynol fel y 'The Owl and the Antelope (E2)', llwybr disglair o osodion (placements) gêr trwy dir a fyddai fel arall yn gwbl anamddiffynadwy. Y pwynt yw, yn aml mae'n werth llusgo'r ger traddodiadol gyda chi (ac mae'n llwybr byr i'w cyrraedd, does 'na ddim byd i'w gwyno amdano). Ar wahân i berlau traddodiadol mewn clogwyni 'sport', mae creigiau sy'n hollol 'trad' eu natur, all gynnal diwrnod allan gwerth chweil - mae Cilfrew Edge yn lleoliad gwych yn yr hydref/gaeaf ac yn gartref i nifer fawr o ddringfeydd o safon (ynghyd â lled arswydus/clasurol (?), y gwaradwyddus 'Throbbing Gristle (E3 5c)', sy'n cyfiawnhau ei enw).

Bowldro Chwarel Treherbert  © Jodiee Evans
Bowldro Chwarel Treherbert

Heb anghofio am y cwffwyr-cerrig-mân (boulderers) – mewn sïn brysur lle canfodwyd clogwyni newydd o hyd, a phroblemau bowldro'n lluosiogi fel cwningod, mae yna ardaloedd nodedig fel Rhaeadr Melin-cwrt gyda'i lleoliad hyfryd ar lan yr afon. Mae gwaelod llawer o glogwyni fel Treherbert Quarrry (Rhondda Pillar) yn creu problemau gwerth chweil, ond wedyn mae gennych chi Neath Abbey Quarry: "Fontainebleau y Cymoedd". Y clogwyn sy'n llawn anrhegion (ac nid yn unig oherwydd fod y clogwyn yn dal i symud i lawr yr allt - mae rhai yn dweud ei fod yn cael ei ailosod yn amlach na rhai o'r waliau dringo lleol). Mae bowldro ar y dywodfaen yn llwyddo i gyddwyso popeth sy'n dda am y dringo sport, ar raddfa grynodedig. Daw symudiadau a gafaelion a fyddai'n amhosib yng nghanol dringfa ar raff yn sydyn reit yn bosib ar dymheredd -4 gradd celsius, ar ymgais rhif pum deg tri. Tafliadau anobeithiol at ymylion (edges) 'deadpoint', gafaelion tenau, cerdyn-credyd, blaenau-bysedd yn sgrechian, popeth werth y boen ar gyfer y tic hollbwysig hwnnw.. Lle gewch chi well?

Elaine Reed yn uchel ar y Luddite, HVS 5b, Chwarel Cwmcarn  © Eben Myrddin Muse
Elaine Reed yn uchel ar y Luddite, HVS 5b, Chwarel Cwmcarn

Y Dyfodol

Er fod tri tywyslyfr newydd ar gyfer De Cymru wedi cael eu rhyddhau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, maent i gyd ar ei hol hi braidd, yn barod - roedd rhai ohonynt erbyn y diwrnod y cawsant eu cyhoeddi! Nid oherwydd unrhyw ddiffyg diwydrwydd nac ymdrech ar ran yr awduron ond diolch i'r ffaith fod y nod yn un sy'n symud o hyd: mae gwaith ffyrnig datblygwyr lleol a'u driliau/brwshys/brwdfrydedd di-ben-draw, yr archwiliadau clogfeini parhaus (y ras i ryddhau De) yn ddiffuant. Pwy fydd y cyntaf i ysgrifennu canllaw tywyslyfr newydd i Dde Cymru? Mae'r ras ar gychwyn. Mae'r holl syrcas wedi rhoi adnodd cynyddol sy'n hwyluso bywyd fel dringwr yn Ne Ddwyrain Cymru, mae hi'n felysach bob blwyddyn.. Adnodd arall sy'n tyfu yw; dringwyr! Symudodd Hannah Roy i Gaerdydd a dechrau dringo ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n siarad am y newidiadau y maent wedi'u gweld yn Ne Ddwyrain Cymru ers hynny.

Symudais i Gymru a dechrau dringo yng Nghaerdydd, bron i ddegawd yn ôl. Pan gyrhaeddais Dde Cymru am y tro cyntaf doedd gen i fawr o wybodaeth am y byd dringo awyr agored ac roeddwn i'n brif gymeriad plastig. Cefais swydd yn yr unig ganolfan ddringo yng Nghaerdydd (ar y pryd) a dechreuais ymgartrefu. Cyn bo hir cefais fy mlas cyntaf o'r awyr agored ac roeddwn wedi gwirioni ar unwaith. Roedd dringo ar graig yn llawer mwy difyr, ond roedd y sïn ddringo yn ôl bryd hynny dipyn yn llai ac roedd cwrdd â ffrindiau dringo newydd yn anodd. Doedd hi ddim yn syndod i gael gweld canolfan ddringo wag rhai nosweithiau. Yn anffodus i mi, mi ddaeth bywyd i fod yn rhystyr braidd - am rai blynyddoedd bu'n rhaid i mi roi'r gorau i ddringo. 

Fast-forward i 2018 pan gyrhaeddais yn ôl yng Nghaerdydd. Ail-gychwynnais fy aelodaeth yn wal ddringo 'Boulders', a sylwais ar unwaith wahaniaeth mawr yn yr awyrgylch. Dim ond ychydig o amser a aeth heibio, ond yr oedd hi'n berwi o bobl yno; roedd dringo wedi dod yn boblogaidd! Heb noson dawel i'w gweld (a do, fe es i bob dydd am tua blwyddyn pan ddechreuais eto, yn gyntaf). Roedd cymaint o wynebau newydd yno, yn frith â'r hen rai.

Cyn hir, datblygais grŵp ffrindiau newydd sbon yn ffocysu ar, ac o gwmpas dringo. Roedd awyrgylch hyfryd, groesawgar i'r awyrgylch newydd ac roedd y gymuned gyfan yn groesawgar a chyfeillgar. Pan darodd Covid, cyn gynted ag yr oedd y rheolau'n caniatáu, roeddem y tu allan bron bob dydd, yn darganfod beth sydd gan ddringo De Cymru i'w gynnig. Pan ddaeth y tywyslyfrau newydd allan yn 2021, cefais fy synnu a'm plesio gan faint sydd i'w weld. Wrth i'r rhwystrau covid ostwng yn araf, (hyd yn oed yn arafach yng Nghymru), ac wrth i ddringo y tu allan ddod yn opsiwn, dechreuodd pobl sylweddoli cymaint nad oeddant wedi ei weld yn lleol, ac wrth sylwi hynny, mae datblygiad yn lleol wedi ei adfywio. Prin fy mod i wedi crafu'r wyneb a nawr mae gen i'r offer i gloddio'n ddyfnach.

Mae 'na gymaint o amrywiaeth o glogwyni, a'r sïn fwyaf 'psyched'. Rwyf wrth fy modd yma ac yn methu aros i weld y pethau'n datblygu. Edrychwch allan Sheffield, dani'n dod am y teitl 'prifddinas dringo'! - Hannah Roy, dringwr lleiol ac ymgeisydd ar gyfer 'gwobr y dringwr mwyaf brwd yn y byd'

Pan ddechreuais i ddringo yma, gallai fod yn dasg llafurus i dorri eich ffordd drwodd i'r clogwyn drwy'r tyfiant, ac weithiau roedd hyd yn oed canfod y bolltau trwy'r budreddi a'r planhigion bron yn amhosib. Y dyddiau hyn, mae'r darlun yn dra wahanol – wrth i fwy o ddringwyr drigo'r clogwyni mae mwy o stiwardiaeth hefyd. Mae llwybrau'n cael eu sathru a'u cynnal a'u cadw, mae sbwriel yn aml yn cael ei gludo i ffwrdd, a chaiff safleoedd nythu eu reportio a'u diogelu felly. Dechreuodd y gymuned hefyd gynnal gweithdai bolltio er mwyn trosglwyddo sgiliau pwysig i'r genhedlaeth nesaf, ac mae'r Gronfa Boltltio newydd brynu ddril newydd (rhowch yma). Bydd sesiynau glanhau i'w ymuno â yn y misoedd nesaf drwy'r BMC, a dydw bron byth yn pacio fy machete bellach er mwyn clirio fy ffordd i'r clogwyn (wel, y rhan fwyaf o glogwyni), a gall hynny ond fod yn beth da i bawb… 

Mae'r dyfodol yn ddisglair ar Dywodfaen De Cymru, felly beth ydych chi'n aros amdano?! Mynnwch gopi o'r tywyslyfr neu App Rockfax, a cerwch i grimpio!

More bouldering at The Creek.  © Gabe Ison
More bouldering at The Creek.
© Gabe Ison




27 Oct, 2022

Diolch am sgwennu'r erthygl yn y Gymraeg, da iawn!

Dwi'n cytuno gyda'r rhan fwyaf o'r geiriau newydd a chafwyd eu cyfieithu, heblaw am "cwffwyr-cerrig-mân". Fel dywed y Saes, it doesn't quite roll off the tongue!

Falle base 'bowldwyr' yn gweithio'n well?

Edit: Ah! 'Mond ar ôl darllen y fersiwn Saesneg weles i dy fod ti wedi cyfieithu pebble-wrestlers! LOL

27 Oct, 2022

Haha, digon teg - oni'n eitha balch o'r un yna mae rhaid fi ddweud! Dwi' ddim yn meddwl y byddwn i'n ei defnyddio hi yn lle "boulderers" (bowldrwrs, bowldrwyr, bowldwyr?) o hyd chwaith. Diolch am yr adborth!

27 Oct, 2022

Article gwych, lot o dda-da yma.

Whilst I know rule number one of asking about why people are downvoting is 'don't ask why people are downvoting', within this particular case I am genuinely curious.

We've published this article in both Welsh and English, so there's nothing taken away from anyone. If anything, it's simply a case of 'more is more', and something that should be celebrated.

If anyone cares to answer I'd love to know...

27 Oct, 2022

there will always be sad people Rob....

More Comments
Loading Notifications...
Facebook Twitter Copy Email